Cymraeg
Mae’r rhan hon o’r wefan yn darparu gwybodaeth anghymleth am yr Archif ac Amgueddfa’r Post Brydeining (y BPMA). Am mwy o wybodaeth, ewch i’r wefan Saesneg.
Gwybodaeth amdanyn Ni
Bu gwasanaethau post Prydain yn cynorthwyo i ffurfio’r byd modern. Mae’r BPMA yn gwarchod y cofnodion gweledol, ysgrifenedig a ffisegol dros gyfnod o fwy na 400 mlynedd o ddatblygiad y post.
Mae’r BPMA yn gyfuniad o Amgueddfa ac Archif:
- Mae Archif y Post Brenhinol yn cofnodi pedair canrif o'r gwasanaeth post ym Mhrydain
- Mae Storfa'r Amgueddfa Bost Brydeing yn llawn o eitemau anhygoel trwy arddangos eitemau ffisegol sy’n gysylltiedig a hanes y system gyfathrebu ym Mhrydain a ledled y byd
Rydym yn adnodd o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer hanes cymdeithasol a hanes y system bost yn Mhrydain.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i About Us.
Cysylltu â Ni
Mae’r Archif wedi’i lleoli yn Freeling House yn Llundain, lle mae prif swyddfa’r BPMA. Mae Storfa’r Amgueddfa wedi’i leoli yn Debden, Essex.
Archif a phrif swyddfa’r BPMA
- Cyfeiriad: Freeling House
Phoenix Place
LLUNDAIN
WC1X 0DL - E-bost: info@postalheritage.org.uk
- Ffôn: +44 (0)20 7239 2570
- Ffacs: +44 (0)20 7239 2576
- Minicom: +44 (0)20 7239 2572
Golyga a detailed leoliad fap 'ma.
I gynllunio eich taith I’r archif, ewch I wefan Transport For London yma: Transport for London Journey Planner.
Ymweld a’r archif
Mae’n syniad da i gysylltu a ni cyn ymweld a’r archif er mwyn i ni gwirio os oes gennym deunydd a fydd o ddefnydd i chi. Yn aml, nid oes angen gwneud apwyntiad cyn ymweld a’r achif. Cofiwch ddod a ddogfen identiti er mwyn i ni ddarparu cerdyn darllenydd i chi.
Mae’r archif ar agor o Ddydd Llyn i Ddydd Gwener, ac ar rhai Dyddiau Sadwrn dwry’r flwyddyn.
Odiaeth Dyddiau Llyn, 10.00yb-5.00yh
Dydd Mawrth-Dydd Gwener, 10.00yb-5.00yh
Dydd Iau, 10.00yb-7.00yh
Rhai Dyddiau Sadwrn (ewch yma I weld y dyddiadau)
Rydym ar gau ar bob wyliau banc, ac rydym yn cau yn agos at wyliau’r Nadolig bob blwyddyn er mwyn gwirio’r stoc.
Ewch I’r adran ymwelwyr (fersiwn Saesneg) am mwy o wybodaeth.
Ymweld â Storfa’r Amgueddfa
Gallwch hefyd ymweld â Storfa'r Amgueddfa’r Post Brydeinig. Nid yw’r Storfa ar agor bob dydd. Mae’r storfa ar agor i’r cyhoedd ond ar brynhawniau, nosweithiau a phenwythnosau penodol. I gael gwybod mwy am y digwyddiadau hyn, ewch i Events.
Y Casgliad Archif
Mae cofnodion hanesyddol Grŵp y Post Brenhinol ccc yn ymwneud â hanfodion bywyd beunyddiol y tu hwnt i ddosbarthu’r post. Cedwir yr holl agweddau ar hanes unigryw’r sefydliad hwn, o gofnodion cyflogaeth i gelfwaith stampiau, yn Archif y Post Brenhinol, sef un o’r archifau busnes hynaf yn y byd.
Am y bu Swyddfa'r Post yn un o adrannau’r Llywodraeth am flynyddoedd lawer, mae’r archif yn Archifdy Cyhoeddus. Mae’r BPMA yn dal i gasglu a gwarchod cofnodion Grŵp y Post Brenhinol hyd heddiw.
Er mwyn defnyddio’r Archif bydd rhaid i chi ymweld â’r Ystafell Chwilio yn Freeling House yn Llundain. Rydym yn cynnig gwasanaeth syml ar gyfer ymchwilio i hanes teulu pan gawn ymholiadau penodol.
Cofnodion Cymru
Mae gwasanaeth y post, fel un o adrannau’r Llywodraeth a nawr fel cwmni sy’n eiddo i’r Llywodraeth, wastad wedi ymwneud â’r iaith Gymraeg. Mae yna lawer o ffeiliau yn Archif y Post Brenhinol sy’n berthynol i Gymru a’r iaith Gymraeg. Gallwch ddefnyddio ein Catalog Ar-lein i chwilio am bynciau penodol. Dyma ddetholiad o ffeiliau i roi syniad i chi am y math o ddeunydd sydd gennym:
POST 10/30
Adroddiad arolwg o’r ffyrdd post drwy Dde Cymru, 1825
POST 10/315
Papurau yn berthynol i hanes a datblygiad gwasanaeth Bws y Post mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru
POST 118
Ffotograffau sy’n berthynol i Ogledd Cymru, yn benodol POST 118/43-49
POST 121/486
Materion Cymreig: memorandwm gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ymofyn hysbysiad ynglŷn â phynciau a fyddai’n debygol o greu helynt yng Nghymru; adroddiad Llywodraeth 1953-1965
POST 122/1057
Llythyrau wedi eu cyfeirio yn Gymraeg: cyhoeddi rhestr o enwau Cymraeg. Rhan 1, 1896-1948
POST 122/1058
Llythyrau wedi eu cyfeirio yn Gymraeg: cyhoeddi rhestr o enwau Cymraeg. Rhan 2 (diwedd), 1948-1958
POST 122/1156
Adroddiad Gweithgor ar yr iaith Gymraeg: y defnydd posibl o ffurflenni, 1959
POST 122/56
Cymdeithas Gwrandawyr Cymru: derbyniad diwifr yng Nghymru; gwrthod talu am drwydded; gofyn am donfeddi clir ar gyfer darllediadau radio Cymraeg: erlyn aelodau am beidio â thalu am drwydded; cyfarwyddyd ar gyfer dadl Materion Cymreig 1955-56
POST 122/932
Gwasanaeth Ateb Busnes: Defnyddio’r iaith Gymraeg: cwestiynau Seneddol a thoriadau papur newydd, 1958-1959
POST 122/968
Penodi siaradwyr Cymraeg yng Nghymru: llenwi swyddi Swyddogion Post a Thelegraff â chanran o siaradwyr Cymraeg, 1954-56
POST 33/3619C
Ymdriniaeth o'r Gymraeg gan Gysylltwyr Ffôn: cwynion gan Genedlaetholwyr Cymreig, 1932-1938
POST 33/5065
Yr Eisteddfod Genedlaethol: trefniadau post a thelathrebu, 1920-1933
POST 33/599A
Gorchmynion Rheilffordd Ucheldir Cymru a Lein Fach Ffestiniog, 1922: diogelu buddiannau Swyddfa'r Post, c1922
Mae Grŵp y Post Brenhinol ccc wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru. Gallwch ddarganfod rhagor am bolisi iaith Gymraeg y Post Brenhinol.
Casgliad yr Amgueddfa
Mae casgliad amgueddfa’r BPMA o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae mor gyfoethog ac amrywiol â hanes y gwasanaeth post a gynrychiolir ganddi.
Mae’r casgliad yn cynnwys eitemau o bob maint, o'r bychan - stampiau law, labeli a chyrn ffôn – i’r mawr iawn – ein Cerbydau Swyddfa'r Post Symudol a cherbyd rheilffordd Swyddfa'r Post Teithiol. Mae hefyd yn cynnwys deunydd papur nad yw’n rhan o’r Archif Gyhoeddus, h.y. mae’n berthynol i’r gwasanaeth post ond heb ei greu gan Grŵp y Post Brenhinol – megis taflenni caneuon a chardiau post.
Mae mwy a mwy o gasgliad yr amgueddfa bellach mewn catalog ar-lein. Yn aml bydd eitemau yn cael eu harddangos mewn arddangosfeydd ar-lein gan y BPMA, ac yn cael eu dangos mewn amgueddfeydd eraill o gwmpas y DG (gallwch weld y lleoliadau yn ein Map Digwyddiadau).
Mae rhai eitemau yn cael eu storio yn Archif y Post Brenhinol yng nghanol Llundain, ond mae’r rhan fwyaf yn cael eu cadw yn ein Storfa Amgueddfa. Er nad yw’r Storfa ar agor bob dydd, rydym yn cynnal diwrnodau agored yn rheolaidd – yn ystod y prynhawn a gyda’r nos.



